Melin Lifio

28

Sefydlwyd melin lifio yn Nhy'n Rhos ym 1868, a chodwyd yr adeilad hwn ym 1892 i ddal llif gron newydd oedd yn gweithio â dŵr. Costiodd yr olwyn ddŵr i yrru'r peiriannau £15 ond, tua dechrau'r 1930au, gosodwyd hen injan car Ford Model-T i wneud y gwaith.

John Williams a'i feibion oedd piau'r busnes ac roeddent yn uchel eu parch am wneud gwaith saer a gwneud dodrefn, cartiau a wagenni o safon uchel. Cyn hir, ychwanegwyd siop baent a oedd yn arbenigo mewn gwneud arwyddion a chwistrellu cerbydau masnachol, a phwmp petrol gan fod mwy a mwy o bobl yn dod yn berchen ar geir.

 

Ffeithiau Adeilad:

  • Lleoliad gwreiddiol: Ty'n Rhos, Llanddewi-Brefi, Ceredigion (Sir Aberteifi)
  • Dyddiad adeiladu gwreiddiol: 1868/1892
  • Datgymalwyd a symudwyd i Sain Ffagan: 1987
  • Dyddiad agor i'r cyhoedd: 1997
  • Gwybodaeth ymweld