Popty Derwen

17

Roedd popty'r Dderwen yn un o dri becws bach masnachol a adeiladwyd yn Aberystwyth tua dechrau'r 20fed ganrif. Fe'i codwyd ym 1900 gan Evan Jenkins, ffermwr lleol, fel busnes ar gyfer ei ddwy ferch. Mae dwy ran i'r adeilad: ystafell baratoi o frics lle câi'r toes ei roi yn y tuniau'n barod i'w bobi, ac adeilad cerrig lle'r oedd popty mawr wedi'i leinio â brics.

Poptai cymunedol oedd y rhai cynnar hyn mewn ffordd. Roedd gwragedd tŷ yn paratoi eu toes gartref ac yn dod ag ef i'w bobi gan dalu am y gwasanaeth. Roedd y ffwrn yn cael ei chynhesu trwy roi ffagodau coed ynddi. Roedd y rhain yn cael eu cynnau a, pan oedd y siambr yn ddigon poeth, byddai'r lludw'n cael ei dynnu oddi yno a'r tuniau toes yn cael eu rhoi i mewn. Roedd yr adeilad wedi'i ddymchwel yn rhannol cyn ei symud ym 1982 a bu'n rhaid dibynnu ar ffotograffau wrth ail-greu'r ystafell baratoi.

Derwen Bakehouse Map Plot

Ffeithiau Adeilad:

  • Lleoliad gwreiddiol: 12 Stryd Thespian, Aberystwyth, Ceredigion (Sir Aberteifi)
  • Dyddiad adeiladu gwreiddiol: 1900
  • Symudwyd i Sain Ffagan: 1987
  • Gwybodaeth ymweld