Prefab

45

Beth yw’r adeilad hwn?

Tŷ parod, neu prefab, yw hwn. Os ydych chi wedi aros mewn carafán neu chalet, bydd adeilad fel hwn yn gyfarwydd i chi!

Beth yw ystyr ‘prefab’?

Daw prefab o’r gair Saesneg prefabricated. Mae’n golygu bod y tŷ wedi’i adeiladu mewn ffatri a’i gludo mewn darnau i gael ei roi at ei gilydd ar y safle.

Mae hyn yn gwbl wahanol i dai arferol, lle caiff popeth ei adeiladu ar y safle.

Mae’r prefab yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn un B2, math o prefab oedd yn cael ei wneud mewn pedwar darn. Cafodd ei adeiladu mewn ffatri yn Hucclecote, Swydd Gaerloyw, oedd yn gwneud awyrennau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ar un cyfnod, mae’n debyg bod tai prefab yn cael eu cynhyrchu ar gyfradd o 1 bob 12 munud!

Edrychwch ar y llun isod i weld yr asiad lle cafodd y prefab ei roi at ei gilydd.

Lle gafodd y prefab hwn ei godi yn wreiddiol?

Roedd hwn yn un o 40 o dai parod o’r fath a godwyd yn Llandinam Crescent, Gabalfa, ardal yng ngogledd Caerdydd. Cafodd ei adeiladu ym 1948, dair blynedd wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd. Mae wedi’i ddodrefnu fel y byddai wedi edrych ym 1950.

Pam gafodd y tai prefab eu hadeiladu?

Ym 1944 cyhoeddodd Winston Churchill y ‘Rhaglen Tai Dros-dro’. Y bwriad oedd rhoi cartrefi i bobl oedd wedi colli eu tai yn ystod y bomio, yn ogystal â gweithwyr allweddol mewn dinasoedd. Roedd angen tai ar frys ar gyfer llawer o bobl. Cafodd tua 7,600 o dai prefab eu codi yng Nghymru. Roeddent yn boblogaidd iawn fel cartrefi cyntaf i gyplau ifanc.

Beth oedd yn y tai prefab?

Roedd dwy ystafell wely ym mhob prefab, yn ogystal ag ystafell fyw, cyntedd, cegin ac ystafell ymolchi.

Roedd cypyrddau wedi’u cynnwys yn nyluniad yr adeilad, yn gwneud defnydd effeithiol o le. Felly doedd dim angen i bobl brynu dodrefn fel hyn fyddai wedi ychwanegu at y gost.

Roedd dŵr oer a phoeth, popty trydan, oergell, bath a thoiled. Roedd tân glo gyda boeler yn yr ystafell fyw, a byddai’n cynhesu’r silindr dŵr poeth yn y cwpwrdd sychu dillad.

Roedd perchnogion tai prefab yn eu galw yn ‘balasau tun’. Cynllun tymor byr wedi’r Rhyfel oedd y tai prefab yn wreiddiol, ond roedd miloedd o bobl yn parhau i fyw ynddynt dros hanner canrif wedi hynny.

Mae rhai eitemau o’r prefab wedi newid neu ddiflannu erbyn hyn - fel y radiogram. Roedd y radiogram yn chwaraewr recordiau ac yn radio!

Mae pethau eraill sydd heb newid gymaint â hynny, fel mae’r eitemau yn y cwpwrdd hwn yn dangos!

Pryd gafodd y prefab ei symud i’r Amgueddfa?

Cafodd y prefab ei symud i Sain Ffagan yn 2001. Y math hwn o dŷ prefab (B2) oedd y mwyaf cyffredin ym Mhrydain ar un adeg. Ond credir mai’r un yn Sain Ffagan yw’r unig enghraifft sydd wedi goroesi.

Ffeithiau Adeilad:

  • Lleoliad gwreiddiol: Llandinam Crescent, Gabalfa, Caerdydd (Morgannwg)
  • Dyddiad adeiladu gwreiddiol: 1947
  • Dodrefnwyd: 1950
  • Datgymalwyd a symudwyd i Sain Ffagan: 1998
  • Dyddiad agor i'r cyhoedd: 2001
  • Gwybodaeth ymweld