Swyddfa Bost Blaen-waun

19

Pa fath o adeilad yw hwn?

Mae’n debyg mai swyddfa bost pentref Blaen-waun yw’r leiaf yng Nghymru.

Cafodd ei hadeiladu ym 1936 ger Hendy-gwyn ar Daf, Sir Gaerfyrddin gan Evan Isaac, saer maen a’i gefnder David Williams, saer coed.

Dim ond 5m o hyd a 2.9m o led oedd y Swyddfa Bost, wedi’i rhannu’n ddwy ystafell - y brif ystafell gyda’r cownter, a’r swyddfa a’r ystafell sortio gyda’i le tân bach a mainc.

Yn y dyddiau hynny, roedd swyddfeydd post yn wahanol iawn i’r adeiladau mawr a welwn mewn trefi a dinasoedd heddiw. Bydden nhw fel arfer yng nghornel siop y pentref neu yn ystafell flaen rhyw dŷ. Fel llawer o swyddfeydd post, roedd Blaen-waun yn gwerthu eitemau fel stampiau, archebion post, trwyddedau a llyfrau cynilo.

Mae blwch post bychan ar y wal tu allan, lle byddai pobl yn postio eu llythyrau.

Cafodd Blaen-waun ei symud i Sain Ffagan ym 1992.

Pwy oedd yn gweithio yn Blaen-waun?

Mrs Hannah Beatrice Griffiths, merch Evan, oedd postfeistres Blaen-waun. Bob bore, cyrhaeddai’r post o Hendy-gwyn i gael ei ddidoli yn yr ystafell gefn.

Yna, teithiai Beatrice wyth milltir ar gefn ei beic i ddosbarthu’r post a’r papurau i ffermydd a bythynnod y fro. Roedd ganddi fasged ar ei beic i’w cario.

Ar ôl gorffen danfon, byddai’n dod nôl i Blaen-waun i weithio tu ôl i’r cownter. Roedd hyn cyn dyddiau’r faniau swyddfa bost.

Roedd Beatrice yn briod â Thomas, oedd yn ei helpu yn y swyddfa bost, ac yn trwsio setiau radio pobl y cylch yn yr ystafell gefn. Mae rhai o fatris a gwifrau’r radios yn dal i’w gweld yn Blaen-waun heddiw.

Roedd Beatrice a Thomas yn bâr prysur gan mai nhw oedd yn rhedeg tafarn y Lamb dros y ffordd hefyd. Os oeddent yn gweithio yn y dafarn byddai cwsmeriaid y swyddfa bost yn canu cloch oedd i’w chlywed yn y Lamb. Rhwng y dafarn a’r swyddfa bost, mae’n siŵr eu bod nhw’n gwybod hanes pawb a phopeth yn y pentref!

Pwysigrwydd swyddfa bost Blaen-waun i drigolion yr ardal

Adeg yr Ail Ryfel Byd, ychydig iawn o gartrefi oedd gan deledu neu ffôn, felly roedd pobl yn dibynnu ar y swyddfa bost i gael eu newyddion. Roedd ffôn ar y cownter yn y swyddfa bost at ddefnydd cwsmeriaid, ac yn ddiweddarach cafodd blwch ffôn ei godi tu allan.

Yn ystod y rhyfel, roedd gan y Gwarchodlu Cartref gangen yn Hendy-gwyn - fel yn y rhan fwyaf o ardaloedd. Dynion lleol oedd yr aelodau, oedd wedi gwirfoddoli i helpu gydag ymdrech y rhyfel. Roedd gan y swyddfa bost dderbynnydd o’r Swyddfa Ryfel er mwyn codi negeseuon brys mewn argyfwng. Pan fyddai newyddion o’r fath, byddai’r Gwarchodlu Cartref yn cyfarfod y tu allan i swyddfa bost Blaen-waun.

Roedd llawer o faciwîs yn yr ardal. Plant o ddinasoedd a threfi oedd y rhan fwyaf ohonynt, wedi eu symud i’r wlad oedd yn fwy diogel. Byddent yn galw heibio’r swyddfa bost, yn awchu am lythyrau o adref.

Wyddech chi?

Yn ystod y rhyfel câi posteri eu defnyddio i roi gwybod i gwsmeriaid beth oedd yn digwydd, a’u hatgoffa i helpu eu gwlad yn ystod y rhyfel. Propaganda yw’r enw ar hyn - rhywbeth wedi’i ysgrifennu i ddylanwadu ar sut mae pobl yn meddwl.

Mae un poster yn swyddfa bost Blaen-waun yn annog pobl i ‘dig for victory’. Cyngor gan y Gweinidog Bwyd oedd hyn, yn atgoffa pobl i beidio gwastraffu ac i dyfu bwyd eu hunain. Roedd hyn yn y dyddiau cyn bod gofyn i ni ailgylchu gwastraff bwyd.Yn ystod y rhyfel roedd dogni ar fwyd, a byddai pobl yn cael llyfr dogni oedd yn dangos faint o fwyd y gallent ei gael bob wythnos.

Roedd Abertawe rhyw 60 milltir o Flaen-waun, a phan gwympai’r bomiau ar y ddinas, byddai ffenestri’r ardal yn ysgwyd.

Cofiai Beatrice iddi weld y bomiau - ‘Fuon ni mâs man’na yn gweld y tân yn hofran yn Abertawe ... o’dd yr awyr yn goch.’

Ffeithiau Adeilad:

  • Lleoliad gwreiddiol: Blaen-waun, Hendy-gwyn-ar-Daf, Carmarthenshire
  • Dyddiad adeiladu gwreiddiol: 1936
  • Dodrefnwyd: 1940
  • Datgymalwyd a symudwyd i Sain Ffagan: 1992
  • Dyddiad agor i'r cyhoedd: 1993
  • Gwybodaeth ymweld