Talwrn

20

Safai'r talwrn gwreiddiol a'i do gwellt ym muarth tafarn yr Hawk & Buckle, Dinbych. Erbyn 1965, roedd yr adeilad yn adfeilio ac, ers gwahardd ymladd ceiliogod ym 1849, roedd wedi'i ddefnyddio at sawl diben, yn cynnwys lladd-dy ac, wedyn, fel garej. Gan fod y ffitiadau mewnol wedi'u tynnu, tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg mae'n fwy na thebyg, bu'n rhaid ail-greu'r llwyfan ymladd a'r rhesi seddi ar ddull amffitheatr. Roedd pobl o bob dosbarth cymdeithasol yng Nghymru yn mwynhau gwylio ymladd ceiliogod am ganrifoedd. Byddai tyrfaoedd yn heidio i'w talyrnau lleol, rhai awyr agored a rhai dan do, i weld gornestau gwaedlyd rhwng ceiliogod.

Roedd y ceiliogod yn cael eu magu a'u hyfforddi i ymladd ac yn cael bwyd arbennig, yn cynnwys bara gwenith wedi'i fwydo mewn wrin, er mwyn dod yn bencampwyr. Roedd betio brwd ar y gornestau ac roeddent yn achlysuron gwyllt a di-drefn. Yn aml, byddai pethau'n mynd yn draed moch yno. Yn archif luniau'r Amgueddfa, ceir ffotograff o dancard arian a gyflwynwyd am ornest yn nhalwrn ymladd ceiliogod Dinbych ym 1726.

Cockpit Map Plot

Ffeithiau Adeilad:

  • Lleoliad gwreiddiol: Hawk & Buckle Inn, Dinbych, Clwyd (Sir Ddinbych)
  • Dyddiad adeiladu gwreiddiol: Diwedd y 17eg ganrif
  • Datgymalwyd a symudwyd i Sain Ffagan: 1965
  • Dyddiad agor i'r cyhoedd: 1970
  • Statws rhestredig: Gradd 2
  • Gwybodaeth ymweld