Siop y Teiliwr

18

Codwyd yr adeilad gwreiddiol yn Cross Inn ym 1896 a'i ddefnyddio i gadw bwyd anifeiliaid. Ychwanegwyd y siop tua dechrau'r 1920au ar ôl i'r teiliwr, David Thomas, gymryd drosodd.

Ffrâm bren sydd i'r adeilad a cheir estyll tafod a rhigol ar y tu mewn a byrddau pren yn rhedeg ar draws ar y tu allan. To sinc sydd iddo. Bu David Thomas yn gweithio yma, gyda chymorth gwahanol brentisiaid yn cynnwys ei ferch ar un adeg. Gosodwyd trydan yma ym 1938. Caewyd y siop ym 1967 a symudwyd yr adeilad i'r Amgueddfa ym mis Medi 1988.

Stoc tebyg i'r hyn a fyddai yno tua dechrau'r 1950au sydd yn y siop yn awr, yn cynnwys rhai o'r defnyddiau a oedd ar ôl ar y silffoedd pan gaeodd y busnes. Yn y gweithdy, gwelir offer o siop Cross Inn ac o siopau D. J. Rees ym Mrechfa a Daniel Davies yn Rhydlewis.

Tailors Shop Map Plot

Ffeithiau Adeilad:

  • Lleoliad gwreiddiol: Cross Inn, Ceredigion (Sir Aberteifi)
  • Dyddiad adeiladu gwreiddiol: 1896 a'r 1920au
  • Dodrefnwyd: 1950au Cynnar
  • Datgymalwyd a symudwyd i Sain Ffagan: 1988
  • Dyddiad agor i'r cyhoedd: 1992
  • Gwybodaeth ymweld