Twlc Mochyn

8

Beth oedd pwrpas yr adeilad hwn?

Adeilad i gadw moch oedd hwn. Cafodd ei adeiladu tua 1800 yn fferm Hendre’r Prosser ger Pontypridd. Fel llawer o dylciau moch de Cymru, mae’n grwn. Mae moch wrth eu boddau yn tyllu mewn corneli, ac roedd twlc crwn yn ei gwneud hi’n anodd iddynt dyrchu eu ffordd allan.

Ychydig iawn o dylciau moch fel hyn sydd ar ôl, ers cyflwyno gwaharddiad ar ladd y mochyn gartref yn y 1950au. Yn yr un cyfnod, dechreuodd cig rhad gael ei fewnforio ac felly roedd llai o alw am gig cartref.

Symudwyd y twlc mochyn i’r Amgueddfa ym 1977.

Sut gafodd y twlc ei adeiladu?

Adeiladwyd y twlc o gerrig fflat, gyda phob cylch o gerrig yn mynd yn llai nes eu bod yn ffurfio to cromennog.

Mae’r siâp yn debyg i gwch gwenyn. Mae carreg fawr fflat ar y top i orchuddio’r twll bach yn y to.

To corbelog yw’r enw ar hyn.

Pam fod pobl yn cadw moch?

Roedd moch yn ffynhonnell bwysig o gig rhad, ac yn fodd o greu incwm i bobl, yn enwedig mewn ardaloedd dosbarth gweithiol. Roedd pesgi mochyn er mwyn ei werthu yn ffordd dda o ennill arian i dalu’r rhent.

Mae moch yn bwyta unrhyw beth, bron – o wastraff y gegin i laswellt. Maen nhw’n greaduriaid sy’n gallu troi bwyd yn gig mewn cyfnod byr.

Roedd diwrnod lladd y mochyn yn ddigwyddiad cymdeithasol o bwys. Byddai ffrindiau a chymdogion yn dod draw i helpu gyda’r paratoi a’r lladd.

Bwtsiera mochyn yn y 1900au

Câi pob rhan o’r mochyn ei ddefnyddio, o’r trwyn i’r traed – gan gynnwys y blew i wneud brwshys a’r gwaed i wneud pwdin gwaed. Byddai’r bledren yn cael ei defnyddio fel pêl-droed.

Wyddech chi?

Mae moch yn anifeiliaid glân iawn. Efallai eich bod wedi clywed y dywediad ‘chwysu fel mochyn’ - ond mewn gwirionedd all moch ddim chwysu! Yn lle hynny maen nhw’n rolio yn y mwd er mwyn oeri eu cyrff - ac mae’r mwd yn gweithio fel eli haul hefyd. Ond mewn ffyrdd eraill, mae eu crwyn a’u cnawd yn debyg iawn i bobl. Mae meddygon yn defnyddio darnau o galon mochyn ar gyfer llawdriniaethau, gan fod calon mochyn yn debyg iawn i galon person.

Mae moch yn anifeiliaid cymdeithasol iawn, ac mewn twlc fel hwn maen nhw’n cysgu’n agos i’w gilydd, weithiau gyda’u ffroenau’n cyffwrdd. Gallwch weld moch yn Fferm Llwyn-yr-Eos yn yr Amgueddfa.

Mae’r gair mochyn yn un poblogaidd iawn. Mae’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio sawl anifail. Mae’n siŵr eich bod wedi clywed am fochyn daear a mochyn cwta – ond beth am fochyn y dŵr a mochyn y môr? Enwau eraill am y capybara a’r llamhidydd yw’r rhain! Mae’r gair mochyn hefyd yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio person budr, blêr neu annymunol – ac mewn rhai rhannau o Gymru maen nhw’n galw darn neu segment o oren yn ‘fochyn’!

 
Pigsty Map Plot

Ffeithiau Adeilad:

  • Lleoliad gwreiddiol: Rhydfelen, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf (Morgannwg)
  • Dyddiad adeiladu gwreiddiol: tua 1800
  • Datgymalwyd a symudwyd i Sain Ffagan: 1976
  • Dyddiad agor i'r cyhoedd : 1977
  • Gwybodaeth ymweld