Hanes yr Wrinal yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

22

Efallai nad hwn yw’r mwyaf mawreddog o adeiladau Sain Ffagan, ond mae ganddo hanes diddorol iawn!

Cafodd toiledau cyhoeddus cyntaf Prydain eu creu gan y peiriannydd a’r ymgyrchydd George Jennings, ym 1852. Roedden nhw’n costio ceiniog i’w defnyddio, a dyna lle daw’r ymadrodd Saesneg ‘spending a penny’. Yn Gymraeg byddwn weithiau yn galw toiled yn ‘lle chwech’ – ond does gan hynny ddim byd i’w wneud ag arian! Roedd toiledau cyhoeddus yn costio ceiniog i’w defnyddio nes i arian degol gael ei gyflwyno ym Mhrydain ym 1971.

Hen ddarn un ceiniog

Roedd George Jennings yn arbenigwr ar greu toiledau cyhoeddus tanddaearol. Roedd y rhain yn llefydd digon crand, gyda rheiliau metel a bwa gyda lampau uwchben y fynedfa. Ar y tu mewn, byddai teils llechi ac, yn ddiweddarach, teils cerameg. Dyma lun o doiledau dynion yng nghanol Caerdydd. Mae hwn yn adeilad wedi’i restru.

Toiled dynion yng nghanol dinas Caerdydd

Lle cafodd wrinal yr Amgueddfa ei adeiladu yn wreiddiol?

Daw’r wrinal yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru o Lanwrtyd ym Mhowys.

Pryd cafodd yr wrinal ei adeiladu?

Cafodd ei adeiladu ddechrau’r 1900au. Dyma lun ohono yn ei leoliad gwreiddiol.

Pwy adeiladodd yr wrinal?

Cafodd ei wneud gan Walter Macfarlane Cyf, cwmni o Glasgow, yr Alban. Roedd y cwmni hwnnw’n enwog dros y byd am eu hadeiladau haearn bwrw, yn cynnwys safleoedd bandiau, ferandas a ffynhonnau yfed. Cafodd yr wrinal ei roi i’r Amgueddfa gan Gyngor Brycheiniog ym 1978 a’i ailgodi yma yn 2010.

Dyma lun o’r wrinal yn yr Amgueddfa.

Os ydych chi wedi bod yn yr Amgueddfa, mae’n ddigon posibl eich bod wedi meddwl tybed lle mae’r toiled merched. Does dim toiled cyhoeddus i ferched wedi’i ailadeiladu yn Sain Ffagan. Y rheswm am hyn yw mai prin iawn oedd y toiledau cyhoeddus i ferched yn hanesyddol. Nôl ar ddechrau’r 20fed ganrif, roedd merched yn fwy tebygol o aros adref yn magu teulu a chadw tŷ, a’r gred oedd nad oedd angen toiledau cyhoeddus ar ferched.

Bu pobl yn ymgyrchu am flynyddoedd i gael toiledau cyhoeddus i ferched yn Llundain, yn eu mysg y dramodydd enwog George Bernard Shaw.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd angen haearn bwrw er mwyn gwneud arfau ac ati. Cafodd sawl wrinal fel un Sain Ffagan eu dinistrio. Cafodd llawer o reiliau haearn eu cymryd hefyd oddi ar dai teras hefyd, llawer ohonynt ym mhentrefi a threfi diwydiannol y cymoedd.

Nodweddion diddorol

Mae Llanwrtyd, lleoliad gwreiddiol yr wrinal, yn gartref i bencampwriaeth enwog Snorclo Cors y Byd! Ym 1984 cafodd cyfres gomedi’r BBC The Magnificent Evans ei ffilmio yno, gyda Ronnie Barker a Myfanwy Talog yn serennu. Cafodd ei ffilmio yn hen fecws Gwalia. Mae siop o’r enw Gwalia yn Sain Ffagan hefyd!

Roedd y Rhufeiniaid yn defnyddio wrin i lanhau staeniau ar eu dillad. Gallwch ddysgu mwy am y Rhufeiniaid yng Nghaerllion.

Byddai’r Tuduriaid a phobl Oes Fictoria yn defnyddio wrin i wynnu dillad wrth eu golchi. Roedd yr amonia yn gwneud y dillad yn fwy gwyn. Mae Adran Addysg yr Amgueddfa yn cynnal sesiynau golchi ar gyfer plant cynradd i’w dysgu sut oedd pobl yn golchi dillad cyn dyddiau trydan.

Roedd afiechydon yn rhemp yn Oes Fictoria. Wedi i filoedd o bobl farw oherwydd colera, pasiodd y Llywodraeth Ddeddf Iechyd y Cyhoedd ym 1848, oedd yn garreg filltir bwysig o safbwynt glanweithdra.

Gall rhai o adeiladau eraill Sain Ffagan yn ein dysgu ni am lanweithdra hefyd – roedd Siop Gwalia yn gwerthu potiau i’w cadw dan y gwely, ac mae tai bach yn rhai o erddi Rhyd-y-car, o’r dyddiau cyn i bobl gael toiled yn y tŷ.

 
Unrial Map Plot

Ffeithiau Adeilad:

  • Lleoliad gwreiddiol: Llanwrtyd, Powys (Sir Faesyfed)
  • Dyddiad adeiladu gwreiddiol: Diwedd 19eg ganrif
  • Datgymalwyd a symudwyd i Sain Ffagan: 1978
  • Dyddiad agor i'r cyhoedd: 2010
  • Gwybodaeth ymweld