Addysg


Archebu
Rhaid i bob grŵp ysgol neu addysgol archebu o leiaf bythefnos ymlaen llaw. Ffoniwch (029) 2057 3424 neu e-bostiwch addysg.sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk (Llun-Gwe, 9am—4pm).
Bydd rhaid talu wrth archebu. Mae'r cwrs yn costio £12 y pen. Rhaid bod o leiaf 130cm o daldra i gymryd rhan ar eich pen eich hun. Rydym yn argymell y gweithgaredd hwn i blant blwyddyn 5 (CA2) a hŷn.
Ar ôl i chi archebu, byddwn yn anfon cadarnhad ysgrifenedig atoch. Darllenwch hwn yn ofalus. Bydd angen i bawb sy'n cymryd rhan lofnodi ffurflen datgan. Rhaid i'r ffurflenni gael eu llofnodi gan riant neu warcheidwad cyn eich ymweliad.
Caiff CoedLan ei weithredu gan gyflenwyr o Ganolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd.
Canslo
Mae gennym bolisi 'dim ad-daliad' ar gyfer archebion CoedLan.
Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch wrth archebu:
- Enw'r ysgol / sefydliad
- Cyfeiriad
- Cod post
- Rhif ffôn
- Cyfeiriad e-bost
- Enw'r athro / arweinydd y grŵp
- Nifer y disgyblion
- Amrediad oed
- Oes gan unrhyw un o'r disgyblion anghenion ychwanegol y dylem wybod amdanynt?
- Nifer y staff
- Pa adeiladau hoffech chi ymweld â nhw? Sylwer: ni ellir ymweld â rhai adeiladau heb archebu ymlaen llaw.
- Pa weithgareddau gan yr Amgueddfa hoffech chi archebu?
- Ydych chi eisiau ymweld ag arddangosfa arbennig?
- Manylion y cerdyn ar gyfer talu
Oriau agor
I weld os oes lle ar gael, ffoniwch (029) 2057 3424. Sylwer: mae'r swyddfa archebu addysg ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc.
Iechyd a Diogelwch
Mae gwybodaeth iechyd a diogelwch i’ch helpu i gwblhau asesiad risg yma [PDF].
Rhaid i bob grŵp 16 oed neu iau gael eu goruchwylio bob amser.
Rhaid bod o leiaf 130cm o daldra i gymryd rhan ar eich pen eich hun. Y pwysau trymaf a ganiateir yw 18 stôn.
Sylwer: ni fydd modd i unrhyw un sy'n cyrraedd heb ffurflen datgan wedi'i llofnodi gymryd rhan.
Cymhareb oedolyn/plant:
- Cynradd – 1 arweinydd i bob 10 plentyn.
- Uwchradd – 1 arweinydd i bob 15 plentyn.
Dillad addas
Dylech wisgo dillad cyfforddus sy'n caniatáu i chi symud yn rhwydd. Dylech wisgo esgidiau addas sy'n gadarn, ac yn gorchuddio'r bodiau. Ni chewch wisgo sandalau, esgidiau sy'n llithro ymlaen, fflip-fflops, sodlau uchel neu debyg ar y cwrs rhaffau uchel. Rhaid clymu gwallt hir yn ôl, a thynnu gemwaith. Gweithgaredd awyr-agored yw hon.
Cymorth cyntaf ac argyfyngau eraill
Ewch at aelod o staff CoedLan.