Rheolau, Rheoliadau ac Ymddygiad

Pwysig

Os nad ydych yn siŵr a all aelod o’ch grŵp gymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cofiwch holi aelod o’r staff cyn i’ch grŵp gymryd rhan yng ngweithgareddau CoedLan.

  1. Mae gweithgareddau CoedLan yn heriol, ac y mae risg o anaf. I leihau’r risg hon, dylech sicrhau eich bod yn rhesymol iach a ffit.
  2. Rhaid i chi wrando ar gyfarwyddiadau eich hyfforddwr, a’u dilyn.
  3. Rhaid i chi ddefnyddio’r cyfarpar diogelwch a ddarperir gennym yn unol â chyfarwyddiadau eich hyfforddwr. 
  4. Rhaid i chi fod naill ai dros 130cm o daldra neu rhaid i chi fod rhwng 110cm a 130cm o daldra a chael cymorth yn ystod eich gweithgareddau Coedlan gan rywun talach (sydd dros 130cm o daldra ac yn 12 oed neu hŷn)  
  5. Rhaid i chi bwyso llai na 18 stôn (115kg).  
  6. Tra byddwch yn cymryd rhan yng ngweithgareddau CoedLan, ni ddylech wneud dim (na pheidio gwneud unrhyw beth) a all achosi difrod neu golled i’n heiddo, i’r cyfleusterau neu i gyfranogwyr eraill ac ni ddylech beri niwsans, annifyrrwch, aflonyddwch, anghyfleustra neu anaf i neb arall.
  7. Rhaid i chi ddilyn pob hysbysiad, cyfarwyddyd a rhybudd a gyhoeddir ar y safle neu a gyfleir i chi gan gynrychiolwyr DGRhC. 
  8. Ni chaniateir i neb sydd, ym marn hyfforddwr, dan ddylanwad cyffuriau neu alcohol gymryd rhan yng ngweithgareddau CoedLan.
  9. Rhaid i bob plentyn dan 130cm fod yng nghwmni oedolyn fydd yn aros ar safle CoedLan tra bydd y plentyn yn cymryd rhan yng ngweithgareddau CoedLan (cymhareb o 1 oedolyn i 2 blentyn; oedolyn yw rhywun 18 oed neu hŷn).
  10. Bydd angen i bawb dan 18 oed (‘Rhai dan 18’) fod â Ffurflen Cydsyniad Meddygol a Datganiad Diogelwch a Risg (y Datganiad) wedi’i llofnodi gan riant neu warcheidwad cyfreithlon priodol cyn cael cymryd rhan yng ngweithgareddau CoedLan. 
  11. Rhaid clymu gwallt yn ôl a rhoi eitemau rhydd (h.y., llinynnau) mewn dillad neu eu tynnu.
  12. Rhaid tynnu pob gemwaith, a gwagio pocedi (rhaid tapio dros fodrwyau nad oes modd eu tynnu er mwyn lleihau’r risg cysylltiedig).
  13. Dim ond Hyfforddwyr gaiff addasu cyfarpar diogelwch wedi ei ffitio.
  14. Ni ddylid cael mwy nac UN unigolyn ar bob elfen a DAU ar bob llwyfan ar unrhyw adeg.
  15. Rhaid i’r Wifren Zip a’r rhwyd lanio fod yn glir o unrhyw ddefnyddwyr eraill cyn gadael y llwyfan cychwyn
  16. Rhaid i chi ddal lanyards ar Wifrau Zip.
  17. Symudwch mewn un cyfeiriad yn unig ar hyd y cwrs.