Digwyddiad: Archaeoleg yn Sain Ffagan: Ail-greu Hanes
Mae Sain Ffagan yn enwog am ei gasgliad o adeiladau hanesyddol o bob cwr o Gymru, sydd wedi’u datgymalu garreg wrth garreg a’u codi eto yn yr Amgueddfa. Ond ynghyd â’r adeiladau hanesyddol, mae tîm arbenigol o archaeolegwyr ac adeiladwyr wedi bod yn creu dau adeilad newydd arbennig fel rhan o Broject Ailddatblygu Sain Ffagan. Mae Bryn Eryr, fferm o’r Oes Haearn a Llys Llywelyn, llys un o Dywysogion Gwynedd, wedi’u seilio ar dystiolaeth o safleoedd archaeolegol ar Ynys Môn.
Ymunwch â ni dros y penwythnos i gwrdd â’r Archaeolegwyr, a dysgu sut y maent yn ail-greu’r gorffennol o gliwiau bychan a adawyd yn y tir. O fywyd y Llychlynwyr a thechnoleg yr Oes Haearn hyd at yCanol Oesoedd – bydd pob math o weithgareddau ac arddangosiadau ar draws yr Amgueddfa y penwythnos hwn.
Paentio waliau yn null y Rhufeinwyr – helpwch ni i greu murluniau modern wedi’u hysbrydoli gan dystiolaeth archaeolegol o Gaer-went. Yna, beth am roi cynnig ar gemau canoloesol, yn seiliedig ar ddarnau o Gasgliad yr Amgueddfa.
Dewch i gwrdd â chymeriadau o Oes yr Haearn – bydd y grŵp ail-greu Yr Hyddgen yn ymuno â ni yn eu cerbyd rhyfel. Bydd sesiynau galw heibio i’r teulu cyfan a straeon wedi’u hysbrydoli gan Oes yr Haearn.
Dysgwch fwy am y wyddoniaeth a chrefft tu ôl i ail-greu cerbydau rhyfel gan ein curaduron arbenigol, siaradwyr gwadd a chrefftwyr.
Dydd Sadwrn 28/7/18
11.30am a 2.30pm – Ail-greu Cerbydau Rhyfel Hynafol
Adam Gwilt, Curadur Cynhanes, a Robert Hurford, gwneuthurwr cerbydau rhyfel.
Dydd Sul 29/7/18
11.30am – Cwrdd â’r Curadur
Cyfle i sgwrsio â Dr Mark Lewis, Curadur Casgliadau Rhufeinig, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru.
2.30pm – Silwriaid De Cymru
Yr Athro Ray Howell, cyn-aelod o staff Coleg Prifysgol Cymru, Casnewydd.
Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd (Adeilad 31):
Defnyddiwyd bagiau persawr yn llawn perlysiau a sbeisys i gadw salwch draw – galwch mewn i Dŷ’r Masnachwr i ddysgu mwy.
Dewch tu ôl i’r llenni yn ein project ail-greu diweddaraf. Mae Llys Llywelyn yn seiliedig ar un o lysoedd Tywysogion Gwynedd o ddechrau'r 13eg ganrif.
Teithiau tywys am ddim – 12.30pm a 3.30pm
Does dim angen cadw lle – cwrdd y tu allan i Lys Llywelyn
Dewch i’n labordy tecstilau Llychlynnaidd a rhoi cynnig ar greu plethen wedi’i hysbrydoli gan y darn ysblennydd o ddefnydd o grannog Llan-gors.
|

Llys Llywelyn - y gwaith yn parhau

Llys Llywelyn - arbrofi gyda paent

Bryn Eryr - tai crwn Oes yr Haearn