Digwyddiad: Castell Tywyll Sain Ffagan

Taith ysbrydion 100 munud fin nos. Bydd y daith yn dechrau trwy gerdded i'r castell ar hyd llwybr coediog heibio'r llynnoedd, safle pentref gwreiddiol Sain Ffagan. Byddwn yn stopio yno i glywed am rai o straeon a chwedlau'r ardal, cyn cyrraedd y castell ei hun...
Ar ôl mynd i mewn, byddwn yn archwilio'r ystafelloedd a'r coridorau tywyll, ar drywydd hanesion iasol.
Pris: £12.50 (Oedolion) £10 (plant 10-13 oed)
Addas i: 10+ (rhaid i blant dan 18 fod yng nghwmni oedolyn)
Does dim gemau na thriciau ar y daith hon. Rydym wedi ymchwilio’n drylwyr ac yn driw i bob stori. Ar y daith golau fflachlamp o’r gerddi a’r adeiladau, awn i’r union lefydd lle mae pobl wedi gweld, clywed a theimlo pethau anesboniadwy dros y blynyddoedd.
Partneriaeth rhwng Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru a Cardiff History and Hauntings yw’r teithiau.
Nifer benodol o lefydd sydd ar gael, ac mae’n rhaid prynu tocynnau ymlaen llaw.
Am ragor o wybodaeth ac i archebu eich lle, ewch i wefan Cardiff History and Hauntings: www.cardiffhistory.co.uk.