Digwyddiadau

DigwyddiadAtgyfodi

Wedi'i Orffen
1921 Hydref 2018
Pris £19.50
Addasrwydd Pawb

[revive: resurrect]

gan John Rea perfformiad

gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

mewn partneriaeth gyda Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

 

Mae’r gair ‘atgyfodi’ yn cyfleu revive a resurrect yn Saesneg. Fe fydd gosodiad cerddorol arbennig gan y cyfansoddwr Cymraeg John Rea yn Atgyfodi delweddau a lluniau o’r archif yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru eleni.

 Wedi’i ysbrydoli gan yr archif, mae cyfansoddiad prydferth John yn bywiocâi adeiladau’r amgueddfa trwy drochi’r dorf â gosodiadau cerddorol a pherfformiad gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae cyfansoddi cyffrous ac emosiynol John yn adfywio lleisiau’r archif.

Archebu Tocynnau

Gwener 19 Hydref:

6:30pm cyrraedd. Gosodweithiau 6.45pm-7.45pm, 8pm cyngerdd yn dechrau.

Sadwrn 20 Hydref:

6:30pm cyrraedd. Gosodweithiau 6.45pm-7.45pm, 8pm cyngerdd yn dechrau.

Sul 21 Hydref:

5:15pm cyrraedd. Gosodweithiau 5.30pm-6.30pm, 6:45pm cyngerdd yn dechrau.

 

 Mae’r digwyddiad tyngedfennol yma yn rhan o benwythnos agoriadol i ddathlu cwblhau’r gwaith ar ail-ddatblygu ac atgyfodi Sain Ffagan. Mae’r digwyddiad dros dair noson yn arddangos atriwm yr adeilad newydd. Argymhellwn archebu’n gynnar er mwyn sicrhau eich tocyn chi.

Ym mis Hydref 2018 bydd Amgueddfa Cymru yn cwblhau prosiect ail ddatblygu Sain Ffagan diolch i nawdd sylweddol a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a chefnogwyr eraill. Dyma yw prosiect ail ddatblygu mwyaf yn hanes yr Amgueddfa. Bydd Atgyfodi yn rhan o’r dathliadau ar y penwythnos agoriadol (19-21 Hydref 2018).

 

Atgyfodi
Digwyddiadau