Digwyddiadau

DigwyddiadGweld y Gwrthrychau: Dydd Gŵyl Dewi

Wedi'i Orffen
1 Mawrth 2019, 11.30am Saesneg, 1pm Cymraeg, 2.30pm Saesneg
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Mae Amgueddfa Cymru yn gofalu am filoedd o wrthrychau, dogfennau, delweddau a recordiadau sain yn ein casgliadau ac archif. Yn y sesiynau hyn, sydd am ddim, bydd archifwyr a churaduron yr Amgueddfa yn cynnig cipolwg ar wrthrychau ac yn datgelu eu hanes.

Felly dewch draw i gael gweld y gwrthrychau yn eich casgliadau cenedlaethol!

Ar Ddydd Gŵyl Dewi, dewch draw i oriel Cymru... i ddysgu mwy am y wisg Gymreig, a gweld y delyn oedd yn perthyn i gyfansoddwr yr anthem genedlaethol.

Amseroedd:

11.30am Saesneg

1pm Cymraeg

2.30pm Saesneg

Gwisg Gymreig yn perthyn i aelod o'r Royal Welsh Ladies Choir, 1930au-1950au.

Digwyddiadau