Sgwrs: Gweld y Gwrthrychau: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
Mae Amgueddfa Cymru yn gofalu am filoedd o wrthrychau, dogfennau, delweddau a recordiadau sain yn ein casgliadau ac archif. Yn y sesiynau hyn, sydd am ddim, bydd archifwyr a churaduron yr Amgueddfa yn cynnig cipolwg ar wrthrychau ac yn datgelu eu hanes.
Felly dewch draw i gael gweld y gwrthrychau yn eich casgliadau cenedlaethol!
I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod dewch draw i oriel Cymru... i ddysgu mwy am faner a wnaed gan swffragetiaid o Gymru a gweld enghraifft brin o ddol gwrth-swffragét. Bydd cyfle hefyd i weld eitemau newydd, sydd ddim yn yr oriel eto, yn y ganolfan mynediad at gasgliadau.
Cyfarfod yn oriel Cymru...

Dol voodoo gwrth-swffragetaidd a anfonwyd yn ddienw at fenyw yng ngorllewin Cymru, dechrau’r 1900au