Sgwrs: Gweld y Gwrthrychau: Y Cynulliad yn Ugain Oed
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Paentiwyd y faner hon gan yr artist Mary Lloyd Jones ar gyfer yr ymgyrch IE dros Gymru cyn refferendwm datganoli 1997.
Mae Amgueddfa Cymru yn gofalu am filoedd o wrthrychau, dogfennau, delweddau a recordiadau sain yn ein casgliadau ac archif. Yn y sesiynau hyn, sydd am ddim, bydd archifwyr a churaduron yr Amgueddfa yn cynnig cipolwg ar wrthrychau ac yn datgelu eu hanes.
Felly dewch draw i gael gweld y gwrthrychau yn eich casgliadau cenedlaethol!
I nodi ugain mlynedd ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, dewch draw i oriel Cymru... i ddysgu mwy am faner a wnaed gan yr artist Mary Lloyd Jones ar gyfer yr ymgyrch IE.
Cyfarfod yn oriel Cymru...