Digwyddiadau

DigwyddiadGŵyl Bro Morgannwg: Perfformiad ar Organ y Ffair

Wedi'i Orffen
19 Mai 2019, 10.30-11.30am
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Mae Gŵyl Bro Morgannwg yn 50 oed eleni. Ymunwch â'r hwyl yn Sain Ffagan, lle bydd cyfle i glywed 10 darn newydd ar gyfer Astrid yr organ stryd - 8 ohonynt gan gyfansoddwyr o Gymru - wedi'u comisiynu'n arbennig fel rhan o'r dathliadau. Y cyfansoddwyr: Charlie Barber, Mark David Boden, Graham Fitkin, Gareth Glyn, Lynne Plowman, Steph Power, Guto Pryderi Puw, Claire Victoria Roberts, David Roche a Ben Wallace

Yn ymuno â'r Astrid bydd pedwarawd hwyliog Sandbox Percussion o Efrog Newydd. Byddant yn perfformio cerddoriaeth gan Steve Reich ac Amy Beth Kirsten ar drionglau, drymiau a darnau o bren!

Llun: Organ y ffair

Astrid - Organ y Ffair

Digwyddiadau