Digwyddiadau

DigwyddiadGweld y Gwrthrychau: Owain Glyndŵr

15 Medi 2019, 11.30am Saesneg,1pm Cymraeg, 2.30pm Saesneg
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Mae Amgueddfa Cymru yn gofalu am filoedd o wrthrychau, dogfennau, delweddau a recordiadau sain yn ein casgliadau ac archif. Yn y sesiynau hyn, sydd am ddim, bydd archifwyr a churaduron yr Amgueddfa yn cynnig cipolwg ar wrthrychau ac yn datgelu eu hanes.

Felly dewch draw i gael gweld y gwrthrychau yn eich casgliadau cenedlaethol!

I ddathlu Diwrnod Owain Glyndŵr, dewch draw i oriel Cymru... i ddysgu mwy am un o'n ffigyrau hanesyddol pwysicaf, ac i weld Sêl Fawr Glyndŵr. Bydd cyfle hefyd i weld gwrthrychau sydd ddim fel arfer yn cael eu harddangos, yn y ganolfan mynediad at gasgliadau.

 Cyfarfod yn oriel Cymru...

 

 

Arfbais Owain Glyndŵr. Mownt o felt cleddyf neu gyfrwy ceffyl, a ddarganfuwyd yng Nghastell Harlech, a gipiwyd gan Glyndŵr ym 1404.

Digwyddiadau