Digwyddiad:Cymdeithas Lysiau Genedlaethol – Pencampwriaeth Cenedlaethol 2026

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Lleoliad: Prif Fynedfa (1)

Rydym wrth ein bodd yn cynnal Pencampwriaeth ysblennydd y Gymdethas Lysiau Genedlaethol, fel rhan o Ŵyl Fwyd Sain Ffagan eleni eto. Gan ein bod wedi croesawu Pencampwriaethau Cangen Cymru i'r Ŵyl ers blynyddoedd lawer, rydym yn arbennig o falch o gael ein dewis fel lleoliad ar gyfer Pencampwriaethau'r DU, sy'n cael eu cynnal yng Nghymru eleni. Edrychwn ymlaen at groesawu arddangoswyr o bob rhan o'r DU i Gaerdydd.

Dyma gyfle i weld y grefft o dyfu llysiau ar ei gorau – gallech ei galw yn gelfyddyd hyd yn oed. Dewch i weld un o draddodiadau garddwriaethol gorau Prydain, a chael ysbrydoliaeth i ddechrau tyfu yn yr ardd.

Os ydych yn mynychu’r sioe fel arddangoswyr, gallwch gael mynediad i’r Amgueddfa o bentref Sain Ffagan yn unig dros nos. Defnyddiwch CF5 6EA ar gyfer sat nav (croesfan reilffordd Sain Ffagan) ac ewch i’r porthdy diogelwch wrth gyrraedd.

Gwybodaeth

12 a 13 Medi 2026, 10am-5pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Winwns arobryn ac unffurf berffaith o Bencampwriaeth Cangen Cymru y Gymdeithas Lysiau Genedlaethol 2023.
Arddangosfa o lysiau arobryn o Bencampwriaeth Cangen Cymru y Gymdeithas Lysiau Genedlaethol 2023.
Naw tomato unffurf berffaith o Bencampwriaeth Cangen Cymru y Gymdeithas Lysiau Genedlaethol 2023. Mae'r lliwiau coch a gwyrdd llachar yn drawiadol yn erbyn y lliain bwrdd du.

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau