Digwyddiad: Teithiau Natur: Helfa Drychfilod
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Bydd ein ffrindiau yn Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yn trefnu tair taith dywys AM DDIM dros yr haf.
Does dim angen archebu ymlaen llaw - bydd eich tywysydd yn aros wrth y Brif Fynedfa.
Helfa Drychfilod
Dewch i grwydro tir Sain Ffagan a'n helpu ni i ganfod gloÿnnod byw, trychfilod a bywyd gwyllt arall. Byddwch chi'n defnyddio offer arbennig i ddal y creaduriaid a'u hastudio'n fanwl.
Hygyrchedd: Mae'r digwyddiad yn anaddas i gadeiriau gwthio
Oedran: Addas i oed 7+
Iaith: Caiff y daith ei harwain gan hwylusydd dwyieithog (Cymraeg/Saesneg)