Digwyddiad: Cerflun David Nash 'Crack and Warp Column'
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Bydd un o weithiau enwocaf David Nash i'w weld yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn ystod yr arddangosfa David Nash: Cerfluniau'r Tymhorau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Crëwyd Crack and Warp Column (2013) drwy naddu cyfres o holltau llif gadwyn paralel mewn derw gwyrdd.
David Nash: Cerfluniau'r Tymhorau yw'r arddangosfa fwyaf, a mwyaf uchelgeisiol o waith yr artist i'w llwyfannu yng Nghymru. Fe'i cynhelir â hithau'n hanner can mlynedd ers i'r artist symud i weithio yng Nghapel Rhiw – cyn gapel y Methodistiaid ym Mlaenau Ffestiniog.