Digwyddiadau

CwrsCwrs: Cyflwyno Enamlo

14 Mawrth 2020, 10:30yb - 4:00yp
Pris £65 | £55
Addasrwydd 18+
Archebu lle Eventbrite

Cyflwyniad modern a chwareus yw’r gweithdy hwn i grefft draddodiadol enamlo. Yr artist lleol Sophie Buckingham fydd yn eich helpu i ddysgu technegau marcio, stensil, sgraffito ac addurniadau eraill. Bydd cyfle hefyd i arbrofi â phatrwm a lliw a thanio enamel gwydrog ar gopr yn yr odyn.

Diwrnod hamddenol, hwyliog sy’n addas i ddechreuwyr llwyr, gydag unrhyw offer a deunyddiau wedi’u darparu.

Tocynnau

Caiff lluniaeth ysgafn ei darparu. Mae croeso i chi ddod â phecyn bwyd neu ymweld â'n bwytai a chaffis ar y safle. Mae pris y cwrs yn cynnwys parcio - casglwch eich tocyn parcio o'r dderbynfa wrth gyrraedd.

Defnyddiwch CF5 6XB ar gyfer llywio lloeren

Rhaid prynu pob tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn ymlaen llaw. Iaith: Cynhelir y cwrs yn Saesneg, ond gellir darparu cyfieithu ar y pryd i’r Gymraeg. Prynwch docyn ar gyfer eich iaith ddewisol, gan wneud yn siŵr fod gennych docyn i bob person. Archebwch eich tocynnau o leiaf wythnos cyn y digwyddiad.

Hygyrchedd: Mae lleoliadau rhai o'n gofodau dysgu yn 5 munud ar droed o'r prif adeilad a'r maes parcio - cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu i drafod gofynion hygyrchedd.

Gostyngiad: i bobl ddigyflog, dros 60 oed, mewn addysg lawn amser a gyda cherdyn NUS, neu anabl.

Addas i oed:18+

 

Digwyddiadau