Digwyddiadau

Cwrs Cwrs: Helyg y Nadolig

30 Tachwedd 2019, 10.30yb - 4.30yp
Pris £70 | £50
Addasrwydd 18+
Archebu lle Eventbrite

Dewch i greu addurniadau Nadolig hardd a naturiol i’ch cartref ar y cwrs ymarferol, undydd hwn. Gan ddefnyddio technegau gwehyddu helyg traddodiadol, byddwch yn creu amrywiaeth o eitemau – o dorchau a sêr i gadwyni a choed bychan.

Diwrnod hamddenol, hwyliog sy’n addas i ddechreuwyr llwyr, gydag unrhyw offer a deunyddiau wedi’u darparu.

Tocynnau

Caiff lluniaeth ysgafn ei darparu. Mae croeso i chi ddod â phecyn bwyd neu ymweld â'n bwytai a chaffis ar y safle. Mae pris y cwrs yn cynnwys parcio - casglwch eich tocyn parcio o'r dderbynfa wrth gyrraedd.

Defnyddiwch CF5 6XB ar gyfer llywio lloeren

Rhaid prynu pob tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn ymlaen llaw.

Iaith: Cynhelir y cwrs yn Saesneg, ond gellir darparu cyfieithu ar y pryd i’r Gymraeg. Prynwch docyn ar gyfer eich iaith ddewisol, gan wneud yn siŵr fod gennych docyn i bob person. Archebwch eich tocynnau o leiaf wythnos cyn y digwyddiad.

Hygyrchedd: Mae lleoliadau rhai o'n gofodau dysgu yn 5 munud ar droed o'r prif adeilad a'r maes parcio - cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu i drafod gofynion hygyrchedd.

Gostyngiad: i bobl ddigyflog, dros 60 oed, mewn addysg lawn amser a gyda cherdyn NUS, neu anabl.

Addas i oed:18+

 

Digwyddiadau