Digwyddiadau

Digwyddiad: Teithiau Ysbryd Sain Ffagan

Wedi'i Orffen
3–4, 17–18 a 22–25 Hydref 2019, 8-10pm
Pris £16
Addasrwydd 12+
Archebu lle www.darkwalestours.co.uk/
Cilewent

Hoffech chi weld ochr dywyll Sain Ffagan? Dewch gyda ni ar daith fflachlamp!

Wyddoch chi ei bod yn bosibl mai Cymru sydd â’r nifer fwyaf o ysbrydion yn y byd? Tybed a oes rhai yma yn Sain Ffagan? Dewch i glywed straeon ysbryd go iawn am yr adeiladau hanesyddol a chlywed am ofergoelion y Cymry am farwolaeth, galar ac ysbrydion.

Does dim gemau na thriciau ar y daith hon. Rydym wedi ymchwilio’n drylwyr ac yn driw i bob stori. Ar y daith golau fflachlamp o’r gerddi a’r adeiladau, awn i’r union lefydd lle mae pobl wedi gweld, clywed a theimlo pethau anesboniadwy dros y blynyddoedd.

Partneriaeth rhwng Sain Ffagan Amgueddfa Werin a Dark Wales Tours yw’r teithiau.

Nifer benodol o leoedd sydd ar gael. Rhaid prynu tocynnau ymlaen llaw.

Tocynnau

 

Iaith: cynhelir y taith yn Saesneg. Os hoffech drefnu taith yn Gymraeg, cysylltwch â Dark Wales Tours.

Digwyddiadau