Digwyddiadau

DigwyddiadLleisiau a Delweddau’r Gymuned Iddewig yn Ne Cymru

Wedi'i Orffen
1022 Medi 2019
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Arddangosfa deithiol yn dathlu treftadaeth cymunedau Iddewig de Cymru. Yn seiliedig ar gyfweliadau hanes llafar, mae’r arddangosfa yn benllanw blwyddyn o waith ymchwil gan wirfoddolwyr Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru.

Mae Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru yn darganfod, dogfennu a rhannu treftadaeth ddiwylliannol cymunedau Iddewig de Cymru.

22/9/19 Sgyrsiau: Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru

I gyd-fynd â’r arddangosfa - ymunwch ag aelodau Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru am ddwy sgwrs yn y Ddarlithfa ar ddydd Sul 22/9/19

Mynediad yn rhad ac am ddim. Nid oes angen archebu lle o flaen llaw.

11:00am Pencare – Jewish Home for Elderly

1:00pm Cardiff Reform Synagogue’s Ladies’ Guild

Mae Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru yn darganfod, dogfennu a rhannu treftadaeth ddiwylliannol cymunedau Iddewig de Cymru.

Iaith: Bydd cynnwys yr arddangosfa yn ddwyieithog (Cymraeg/Saesneg). Cynhelir y sgyrsiau yn Saesneg.

Offeiriaid ac aelodau o gymuned Iddewig Caerdydd, 1932.

 

Digwyddiadau