Digwyddiadau

DigwyddiadTeithiau Ysbryd Amgueddfa Sain Ffagan

910, 1617, 24 a 31 Ionawr, 8pm-10pm
Pris £16
Addasrwydd 12+
Archebu lle www.darkwalestours.co.uk/

Hoffech chi weld ochr dywyll Sain Ffagan? Dewch gyda ni ar ddwy daith fflachlamp!

Wyddoch chi ei bod yn bosibl mai Cymru sydd â’r nifer fwyaf o ysbrydion yn y byd? Tybed a oes rhai yma yn Sain Ffagan? Dewch i glywed straeon ysbryd go iawn am yr adeiladau hanesyddol a chlywed am ofergoelion y Cymry am farwolaeth, galar ac ysbrydion.

Does dim gemau na thriciau ar y daith hon. Rydym wedi ymchwilio’n drylwyr ac yn driw i bob stori. Ar y daith golau fflachlamp o’r gerddi a’r adeiladau, awn i’r union lefydd lle mae pobl wedi gweld, clywed a theimlo pethau anesboniadwy dros y blynyddoedd.

Partneriaeth rhwng Sain Ffagan Amgueddfa Werin Dark Wales Tours yw’r teithiau.

Nifer benodol o leoedd sydd ar gael. Rhaid prynu tocynnau ymlaen llaw.

Tocynnau

 

Iaith: Cynhelir y taith yn Saesneg.  Os hoffech drefnu taith iaith Gymraeg, cysylltwch â Dark Wales Tours.

Cilewent
Digwyddiadau