Digwyddiadau

Digwyddiad: Gweld y Gwrthrychau: Dydd Santes Dwynwen

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen
25 Ionawr 2020, 11am Saesneg, 1pm Cymraeg, 3pm Saesneg
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Llwy garu o gasgliad AWC, 1667.

Caiff Dydd Santes Dwynwen ei ddathlu yng Nghymru ar 25 Ionawr, i goffáu nawddsant cariad a chyfeillgarwch.

Dewch draw i ddysgu mwy am heitemau cariadus o gasgliadau’r Amgueddfa, gan gynnwys rhai o lwyau caru hynaf yr Amgueddfa.

Mae Amgueddfa Cymru yn gofalu am gannoedd ar filoedd o wrthrychau, dogfennau, delweddau a recordiadau sain yn ein casgliadau ac archif. Yn y sesiynau hyn, sydd am ddim, bydd archifwyr a churaduron yr Amgueddfa yn cynnig cipolwg ar wrthrychau ac yn datgelu eu hanes.

Nifer cyfyngedig o lefydd, archebwch wrth gyrraedd

Digwyddiadau