Gwyl Fwyd Amgueddfa Cymru
7-8 Medi 2024

Gwneud Cais

Mae Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn falch o roi llwyfan i gynhyrchwyr a busnesau bwyd bach, lleol ac annibynnol o Gymru. Gyda thros 80 o stondinau yn cynnig detholiad eang o gynnyrch, o brydau traddodiadol Cymru i fwyd stryd blasus, mae rhywbeth at ddant pawb!

Ydych chi'n fusnes bwyd a diod o Gymru sydd â diddordeb mewn masnachu yn y digwyddiad hwn?

Diolch am eich diddordeb yn ein digwyddiad. Mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar gyfer digwyddiad 2024 bellach wedi pasio. Mae ein proses ymgeisio yn agor ym mis Ionawr/Chwefror bob blwyddyn, gyda stondinwyr yn cael eu dewis a’u cadarnhau ym mis Mawrth.

Os hoffech chi gofrestru ar ein rhestr bostio stondinwyr i dderbyn gwybodaeth am ddigwyddiad y flwyddyn nesaf drwy e-bost, yn ogystal â chyfleoedd masnachu eraill yn Amgueddfa Cymru yn y dyfodol, cliciwch isod i gyflwyno eich manylion cyswllt.

Cofrestru i ymuno â'n rhestr e-bostio

Yr Ŵyl

Mae Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn ddigwyddiad blynyddol a gynhelir yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. 

Ffefryn cadarn yng nghalendr bwyd Cymru, mae Sain Ffagan yn dod yn fyw gyda dros 80 o stondinau bwyd, diod a chrefft yn nythu ymhlith yr adeiladau hanesyddol.

Mwynhewch wledd o weithgareddau bwyd sy'n addas i deuluoedd, arddangosiadau coginio, danteithion blasus a cherddoriaeth fyw gan rai o gynhyrchwyr gorau Cymru.

Cynhelir yr Ŵyl Fwyd eleni ar 7-8 Medi 2024.

Cefnogwch Ni

Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at benwythnos llawn bwyd, cerddoriaeth a hwyl i’r teulu oll! 

Elusen ydyn ni, ac rydyn ni wrth ein bodd yn dod â chymunedau ynghyd, a bod yn lle i greu atgofion. 

⁠Os ydych chi’n teimlo’r un fath, cyfrannwch heddiw er mwyn cadw stori Cymru’n fyw i bawb ei mwynhau am ddim.  

Mae eich cefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth mawr - diolch. 

Rhoi heddiw