Digwyddiadau

Digwyddiad: Wyna yn Llwyn-yr-eos

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen
1–24 Mawrth 2023, 10am - 5pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Sgrinwyna

Pa ffordd well o ddathlu dechrau’r gwanwyn nag wrth groesawu newydd-ddyfodiaid y sied wyna? Ymunwch â ni i groesawu’r ŵyn bach yn Fferm Llwyn-yr-eos. 

Gallwch ddilyn hynt a helynt y mamau a’r babis ar #Sgrinwyna ar wefan yr Amgueddfa (6-24 Mawrth).

Neu, os ydych chi awydd profiad mwy ymarferol, dewch ar un o’n Cyrsiau Wyna!

Os ydych yn bwriadu dod draw i’r fferm i gyfarfod ein mamau a babis newydd, cofiwch ddarllen y cyngor isod:

  • Gall dod i gyswllt â defaid yn ystod cyfnod wyna fod yn beryglus i fenywod beichiog.  Os ydych chi’n feichiog, neu’n credu y gallech chi fod, darllenwch y canllawiau GIG cyn dod i gyfarfod â’n defaid.
  • Mae’r holl ddefaid yn y siediau dros gyfnod wyna un ai yn feichiog neu’n famau newydd amddiffynnol. Mae gennym bolisi ‘dim cyffwrdd’ ar gyfer yr holl ddefaid ac ŵyn er mwyn eu gwarchod. Gofynnwn i chi fod yn dawel a thyner o gwmpas yr anifeiliaid.
  • Bydd pob oen iach yn cael ei fwydo gan ei fam.  Bydd unrhyw fwydo ychwanegol â photel ar gyfer yr ŵyn bregus yn cael ei wneud gan aelod o’r tîm, a ddim gan aelodau’r cyhoedd.
  • Mae wyna yn fusnes anodd ei ragweld ac allwn ni addo y gwnewch chi weld genedigaeth.
  • Cŵn – dim ond cŵn gydag ymddygiad da ar dennyn byr gaiff ddod i’r fferm adeg wyna.  Gofynnwn i chi gadw eich cŵn draw o’r defaid bob amser. Cadwn yr hawl i warchod lles ein defaid yn hyn o beth, a gofynnir i gŵn/perchnogion cŵn sy’n ymddwyn yn anaddas i adael yr ardal.
Digwyddiadau