Digwyddiadau

Cwrs: Cyrsiau Diwrnod Wyna

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen
4, 8, 11 a 13 Mawrth 2024, 8:30am - 4pm
Pris £150 | £120 Gostyniad
Addasrwydd 16+*
Sgrinwyna

Archebu Tocynnau 

 

Cyfle i fwynhau diwrnod cyfan yn sied wyna fferm Llwyn-yr-eos.


Gyda chymorth craff y tîm wyna, byddwch chi’n dysgu sut i ofalu am ddefaid beichiog, adnabod arwyddion esgor a delio â phroblemau cyffredin. Bydd genedigaeth yn ystod y dydd yn gyfle i dorchi llewys os ydych chi’n teimlo’n hyderus! Cewch dreulio amser yn y feithrinfa gyda’r defaid, yn helpu i asesu anghenion a lles yr ŵyn yn eu dyddiau cyntaf, ond bydd amserlen y diwrnod yn hyblyg, yn dibynnu ar brysurdeb y sied wyna.

Cwrs addas i ddechreuwyr llwyr – does dim angen profiad blaenorol o drin defaid.

Mae dau lle ar gael bob diwrnod. Darllenwch y canllawiau isod cyn archebu.


Canllawiau a gwybodaeth diogelwch:

 

Dylai unrhyw berson beichiog, sydd â phartner beichiog, neu sy’n ceisio am blentyn ddarllen y canllawiau canlynol gan y GIG (Saesneg yn unig).

https://phw.nhs.wales/news/advice-issued-to-pregnant-women-during-lambing-season/ 

Mae’r dyddiadau wedi’u trefnu i gynnig y cyfle gorau i weld genedigaeth, ond mae wyna yn fusnes anodd ei ragweld ac allwn ni addo dim.

Byddwch yn barod i wisgo hen ddillad a throchi – rydyn ni’n argymell gwisgo trowsus gwrth-ddŵr (gallwn ni addo y byddwch chi’n penlinio mewn dom!)

Os ydych chi am dorchi llewys gofynnwn i chi dorri eich ewinedd a thynnu unrhyw farnais a modrwyau. Ein blaenoriaeth yn hyn o beth yw diogelwch y defaid.

Mae croeso i chi ddod â phecyn bwyd neu ymweld â'n bwytai a chaffis ar y safle. Gallwn gynnig gostyngiad o 10% yn ein bwytai a chaffis* i ddeiliaid tocyn cwrs  *(heblaw am Bopty Derwen)

Bydd digwyddiadau’r sied wyna yn cael eu ffrydio’n fyw ar wefan yr Amgueddfa fel rhan o broject #sgrinwyna. Wrth reswm, bydd unrhyw un sy’n mynychu yn ymddangos (er mai’r defaid yw sêr y sioe). Wrth archebu lle rydym yn cymryd eich bod yn rhoi caniatâd ymlaen llaw i gael eich ffilmio – bydd yn rhaid i chi lofnodi ffurflen ganiatâd ffilmio a ffotograffiaeth ar y diwrnod.

 

Parcio:

Mae pris y cwrs yn cynnwys parcio. Bydd y tîm tocynnau yn cysylltu â chi yn yr ystod yr wythnosau cyn y cwrs gyda manylion drwy'r e-bost a ddarparwyd wrth archebu. 

Iaith:

Cynhelir y cwrs drwy iaith cyntaf yr hwylusydd - sef Saesneg

Hygyrchedd:

Gallai'r cwrs hwn fod yn anaddas i bobl â phroblemau symudedd oherwydd yr amodau yn y sied wyna. Cysylltwch cyn archebu i drafod unrhyw bryderon drwy e-bostio digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk

Argaeledd Consesiynau:

Gostyngiadau i bobl ddigyflog, dros 60 oed,rhwng 16-18 oed, mewn addysg lawn amser a gyda cherdyn NUS, neu anabl.

Oed:

16+* *(rhaid i blant 16–18 fod yng nghwmni oedolyn sy’n cymryd rhan).

 

Mae'r telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau ar gael i'ch ystyried fan hyn.

 

Drwy archebu lle ar ein cyrsiau, rydych chi'n ein cefnogi ni i adrodd stori Cymru er mwyn ysbrydoli pawb. Diolch o galon.

Digwyddiadau