Digwyddiadau

Digwyddiad: Teithiau Ysbryd Amgueddfa Sain Ffagan

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen
2 Medi–24 Tachwedd 2022
Pris £18.50
Addasrwydd 12+
Archebu lle www.darkwalestours.co.uk

Hoffech chi weld ochr dywyll Sain Ffagan? Dewch gyda ni ar ddwy daith fflachlamp!

Wyddoch chi ei bod yn bosibl mai Cymru sydd â’r nifer fwyaf o ysbrydion yn y byd? Tybed a oes rhai yma yn Sain Ffagan? Dewch i glywed straeon ysbryd go iawn am yr adeiladau hanesyddol a chlywed am ofergoelion y Cymry am farwolaeth, galar ac ysbrydion.

Does dim gemau na thriciau ar y daith hon. Rydym wedi ymchwilio’n drylwyr ac yn driw i bob stori. Ar y daith golau fflachlamp o’r gerddi a’r adeiladau, awn i’r union lefydd lle mae pobl wedi gweld, clywed a theimlo pethau anesboniadwy dros y blynyddoedd.

Dydd Gwener 2 Medi 8:30pm - Dim lle ar ôl

Dydd Iau 29 Medi 7:30pm

 

Dydd Sadwrn 15 Hydref 7pm - Dim lle ar ôl

Dydd Gwener 21 Hydref 7pm - Dim lle ar ôl

Dydd Gwener 28 Hydref 7pm - Dim lle ar ôl

 

Dydd Gwener 4 Tachwedd 7pm - Dim lle ar ôl

Dydd Gwener 11 Tachwedd 7pm - Dim lle ar ôl

Dydd Iau 17 Tachwedd 7pm

Dydd Iau 24 Tachwedd 7pm

 

Dydd Gwener 2 Rhagfyr 7pm - Dim lle ar ôl

Dydd Gwener 9 Rhagfyr 7pm - Dim lle ar ôl

Dydd Gwener 16 Rhagfyr 7pm

 

Partneriaeth rhwng Sain Ffagan Amgueddfa Werin a Dark Wales Tours yw’r teithiau.

Nifer benodol o leoedd sydd ar gael. Rhaid prynu tocynnau ymlaen llaw.

Tocynnau

Iaith: Cynhelir y taith yn Saesneg. Os hoffech drefnu taith iaith Gymraeg, cysylltwch â Dark Wales Tours.

Digwyddiadau