Digwyddiadau

Arddangosfa: Cymru...Olympaidd

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
23 Gorffennaf–2 Hydref 2021
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Medal aur Lynn Davies o'r gemau Olympaidd yn Tokyo, 1964 

Gwelwch wrthrychau arbennig prif Olympiaid a Pharalympiaid Cymru mewn arddangosiad newydd i ddathlu Gemau Olympaidd Haf Tokyo 2020. 

Dewch i adnabod rhai o bencampwyr athletau Cymru gan gynnwys; Paulo Radmilovic, Olympiad mwyaf llwyddiannus Cymru; Irene Steer, y fenyw Gymreig gyntaf i ennill medal aur; a Lynn Davies, enillydd y fedal aur yn y naid hir yng Ngemau Olympaidd Tokyo 1964.

Mae’r arddangosfa hon yn bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru ac Oriel yr Anfarwolion Chwaraeon Cymru.

Digwyddiadau