Cwrs: Creu Basged Dorch




Dewch i ddysgu crefft draddodiadol basgedwaith ar y cwrs undydd hwn, gyda’r artist a gwneuthurwr Basgedi Colette Davies. Mae gwaith Colette yn ffres a chyfoes, ac yn defnyddio cyfuniadau syfrdanol o ffibrau planhigion a phlastig gwastraff wedi'i gasglu o draethau Cymru.
- Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer dechreuwyr pur – darperir y deunyddiau a'r offer i gyd.
- Gallwch ddefnyddio ffibrau planhigion naturiol neu blastig wedi’i gasglu o'r traeth ar gyfer eich basged.
- Byddwch yn dysgu sut i bwytho’r defnydd hwn i greu mat neu fasged fach unigryw.
- Gallwch bwytho gydag edau lin wedi'i thrin â chwyr, neu blastig o'r traeth.
- Bydd Colette hefyd yn dangos i chi sut i greu strap syml o ffibrau planhigion neu sbwriel o'r môr.
Rhaid prynu pob tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn ymlaen llaw.
Mae croeso i chi ddod â phecyn bwyd neu ymweld â'n bwytai a chaffis ar y safle. Gallwn gynnig gostyngiad o 10% yn ein bwytai a chaffis* i ddeiliaid tocyn cwrs *(heblaw am Bopty Derwen)
Mae pris y cwrs yn cynnwys parcio. Bydd y tîm tocynnau yn cysylltu â chi gyda manylion drwy'r e-bost a ddarparwyd wrth archebu.
Iaith: Cynhelir y cwrs drwy iaith cyntaf yr hwylusydd - sef Saesneg
Oed: 16+ (rhaid i blant 16–18 fod yng nghwmni oedolyn sy’n cymryd rhan)
Gostyngiad: Myfyrwyr gyda cherdyn NUS, pobl sy’n derbyn budd-daliadau. Pobl dros 60 oed a dan 18* (rhaid i blant 16–18 fod yng nghwmni oedolyn sy’n cymryd rhan).
Hygyrchedd: Mae rhai o ofodau dysgu’r Amgueddfa 5 munud ar droed o’r prif adeilad a’r maes parcio – cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu i drafod anghenion hygyrchedd.
Drwy archebu lle ar ein cyrsiau, rydych chi'n ein cefnogi ni i adrodd stori Cymru er mwyn ysbrydoli pawb. Diolch o galon.