Digwyddiadau

Cwrs: Cwrs Gwehyddu Brwyn

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen
3 Chwefror 2024, 10.30am-4pm
Pris £85 | £70 gostyngiad
Addasrwydd 16+*
Llun: Cwrs creu mat brwyn yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Archebu Tocyn 

Cwrs diwrnod yn rhoi'r cyfle i chi droi eich llaw at grefft gwehyddu brwyn yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Gyda chymorth y grefftwraig leol Clare Revera, byddwch yn dysgu'r technegau sydd eu hangen i greu mat bwrdd brwyn neu ddau (neu fwy fyth os gallwch chi!) Bydd cyfle hefyd i chi ddefnyddio deunyddiau gwyllt o'r ardd os hoffech chi.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

 

Rhaid prynu pob tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn ymlaen llaw.

 

Mae croeso i chi ddod â phecyn bwyd neu ymweld â'n bwytai a chaffis ar y safle. Gallwn gynnig gostyngiad o 10% yn ein bwytai a chaffis* i ddeiliaid tocyn cwrs *(heblaw am Bopty Derwen)

 

Lleoliad

Cynhelir y cwrs yma yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Defnyddiwch god post CF5 6XB ar gyfer llywio â lloeren.

Parcio

Mae pris y cwrs yn cynnwys parcio. Bydd y tîm tocynnau yn cysylltu â chi gyda manylion drwy'r e-bost a ddarparwyd wrth archebu.

Iaith

Cynhelir y cwrs drwy iaith cyntaf yr hwylusydd - sef Saesneg

Oedran

16+. (Rhaid i blant o dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn 18+ sy’n cymryd rhan)

Hygyrchedd

Mae rhai o ofodau dysgu’r Amgueddfa 5 munud ar droed o’r prif adeilad a’r maes parcio – cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu i drafod anghenion hygyrchedd.   
    
Gall darllen y telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau yma.

Drwy archebu lle ar ein cyrsiau, rydych chi'n ein cefnogi ni i adrodd stori Cymru er mwyn ysbrydoli pawb. Diolch o galon.

Digwyddiadau