Cwrs: Cerfio Llwyau



Ymunwch â Vic Phillips o SingleMaltTeapot i ddysgu am yr offer a’r technegau sy’n hanfodol wrth gerfio llwy. Ar ddiwedd y gweithdy bydd y sgiliau gennych i ddefnyddio cyllyll ar gyfer amrywiaeth o brojectau cerfio, a byddwch wedi creu llwy o bren leim.
Yn ystod y gweithdy byddwn yn trafod:
- Defnyddio offer torri pren yn ddiogel.
- Sut i gerfio pren gyda chyllyll.
- Rhoi gorffeniad hardd i’ch llwy.
- Chwilio am ddeunyddiau newydd a’r gwahaniaeth rhwng gwahanol fathau o bren.
- Yr offer sydd eu hangen i gerfio a sut i ofalu amdanynt.
Mae croeso i chi ddod â phecyn bwyd neu ymweld â'n bwytai a chaffis ar y safle. Gallwn gynnig gostyngiad o 10% yn ein bwytai a chaffis* i ddeiliaid tocyn cwrs *(heblaw am Bopty Derwen)
Mae pris y cwrs yn cynnwys parcio. Bydd y tîm tocynnau yn cysylltu â chi gyda manylion drwy'r e-bost a ddarparwyd wrth archebu.
Cod post llywio â lloeren – CF5 6XB
Rhaid prynu pob tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn ymlaen llaw.
Iaith: Cynhelir y cwrs drwy iaith cyntaf yr hwylusydd - sef Saesneg
Gostyngiad: Myfyrwyr gyda cherdyn NUS, pobl sy’n derbyn budd-daliadau. Pobl dros 60 oed a dan 18* (rhaid i blant 16–18 fod yng nghwmni oedolyn sy’n cymryd rhan).
Hygyrchedd: Mae rhai o ofodau dysgu’r Amgueddfa 5 munud ar droed o’r prif adeilad a’r maes parcio – cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu i drafod anghenion hygyrchedd.
Drwy archebu lle ar ein cyrsiau, rydych chi'n ein cefnogi ni i adrodd stori Cymru er mwyn ysbrydoli pawb. Diolch o galon.