Arddangosfa: Cymru...Yr Urdd
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen



Dewch i weld gwrthrychau eiconig sy’n adrodd hanes ac esbonio dylanwad yr Urdd mewn arddangosfa newydd i nodi canmlwyddiant y mudiad.
Creu mudiad i hyrwyddo ac amddiffyn yr iaith Gymraeg oedd nod Ifan ab Owen Edwards pan sefydlodd yr Urdd ym 1922. Ganrif yn ddiweddarach yr Urdd yw mudiad plant a phobl ifanc mwyaf Cymru.
Ymhlith y gwrthrychau sy'n cael eu harddangos mae eitemau o Eisteddfod gyntaf yr Urdd, y Neges Ewyllys Da gyntaf a’r Mistar Urdd cyntaf i deithio i’r gofod!
Mae’r arddangosfa hon yn bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru a’r Urdd.