Arddangosfa: Ein Lle Ni – Dathlu Blaenau Gwent

Teilsen gan Barry Simkiss

Trigolion Blaenau Gwent yn Ymgysylltu â Chelfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth (BG REACH) – arddangosfa
Mae BG REACH yn brosiect celfyddydau creadigol sy’n cefnogi trigolion Blaenau Gwent i greu celf, cerddoriaeth, darnau ysgrifennu creadigol a ffilmiau sy’n adlewyrchu cyfoeth hanesyddol a phrydferthwch naturiol yr ardal. Mae’r arddangosfa hon yn ddathliad o dreftadaeth Blaenau Gwent a fynegir drwy ddoniau’r bobl sy’n byw yno.
P’un a oes gennych gysylltiadau gyda’r rhanbarth neu ddim, bydd yr arddangosfa hon yn agor eich llygaid i bobl a hanes ardal hynod ddiddorol o Gymru. Gallwch hefyd ymweld â fersiwn ar-lein o’r arddangosfa.
Mae BG REACH yn bartneriaeth rhwng Y Brifysgol Agored yng Nghymru, Asiantaeth Tai Linc Cymru a Grŵp Cymunedol Aberbîg. Ariennir y prosiect gan Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig (UKRI).