Cwrs: Cyflwyniad i Waith Lledr


Cwrs diwrnod yn rhoi’r cyfle i chi droi eich llaw at waith lledr yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.
Mewn grŵp bychan dan ofal clocsiwr yr Amgueddfa, Geraint Parfitt, byddwch chi’n dysgu sut i dorri, pwytho a siapio lledr, a chreu pwrs bach hardd. Mae hwn yn gwrs addas i ddechreuwyr ac mae’r pris yn cynnwys yr holl ddeunyddiau angenrheidiol.
Mae croeso i chi ddod â phecyn bwyd neu ymweld â'n bwytai a chaffis ar y safle. Gallwn gynnig gostyngiad o 10% yn ein bwytai a chaffis* i ddeiliaid tocyn cwrs *(heblaw am Bopty Derwen)
Mae pris y cwrs yn cynnwys parcio. Bydd y tîm tocynnau yn cysylltu â chi gyda manylion drwy'r e-bost a ddarparwyd wrth archebu.
Iaith: Mae hwylusydd y cwrs hwn yn ddwyieithog (Cymraeg/Saesneg).
Hygyrchedd: Mae rhai o ofodau dysgu’r Amgueddfa 5 munud ar droed o’r prif adeilad a’r maes parcio – cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu i drafod anghenion hygyrchedd.
Gostyngiadau: Myfyrwyr gyda cherdyn NUS, pobl sy’n derbyn budd-daliadau. Pobl dros 60 oed a dan 18* (rhaid i blant 16–18 fod yng nghwmni oedolyn sy’n cymryd rhan)
Telerau ac amodau: Mae'r telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau ar gael i'ch ystyried fan hyn.
Drwy archebu lle ar ein cyrsiau, rydych chi'n ein cefnogi ni i adrodd stori Cymru er mwyn ysbrydoli pawb. Diolch o galon.