Digwyddiad: Marchnad 'Real Food' Sain Ffagan
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Bydd Riverside Real Food yn ymuno â ni eto ar gyfer eu marchnad fwyd fisol. Cyfle i gefnogi cynhyrchwyr bwyd lleol, prynu danteithion a mwynhau ymweliad â’r Amgueddfa.
Lleoliad: ar y lawnt fechan o flaen y Prif Adeilad
Parcio: codir y tâl arferol am barcio – mynediad am ddim i’r Amgueddfa.
Dyma’r stondinau fydd yn galw heibio’r mis hwn:
Cakes and Bakes
Noodles Ready Meals
Momma Nature
Trecastle Eggs
- Sylwer: gall fod newidiadau munud ola i'r stondinau yn y rhestr uchod.
- Os yw'r tywydd yn wael, cadwch lygad ar y wefan a'r cyfryngau cymdeithasol i wneud yn siŵr bod y Farchnad yn dal i gael ei chynnal.
- Os bydd y farchnad yn cael ei chanslo, neu stondin benodol yn gorfod canslo ar y funud ola, ni all yr Amgueddfa ad-dalu costau parcio.