Digwyddiadau

Digwyddiad: Clwb Swper Oasis yn Sain Ffagan

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen
9 Medi 2022, Cyrraedd am 7pm, bwyd am 7.30pm
Pris £30
Addasrwydd 16+

Ymunwch â ni am wledd unigryw yn awyrgylch hanesyddol hudolus Llys Llywelyn.

Bydd tîm cegin Oasis yn cyfuno bwydydd traddodiadol Cymreig gyda dylanwadau o bob cwr o’r byd. Dewch draw am noson o adloniant wrth i ni ddathlu’r ffordd y gall bwyd ddod â diwylliannau ynghyd, yn y digwyddiad arbennig hwn gan Glwb Swper Oasis yn Sain Ffagan.

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o broject Ffoaduriaid Cymru, a gefnogir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r dyniaethau. Caiff project Plât gan dîm cegin Oasis ei gefnogi gan Sefydliad Garfield Weston, a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Hygyrchedd: Mae Llys Llywelyn 10 munud ar droed o brif fynedfa a maes parcio’r Amgueddfa. Cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu i drafod gofynion hygyrchedd.

BWYDLEN

TOCYNNAU

Rhaid prynu tocynnau ymlaen llaw.

Mae parcio yn yr Amgueddfa yn gynwysedig ym mhris y tocyn

 

Digwyddiadau