Digwyddiad: Sesiwn goginio Syriaidd
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Dewch i ffermdy Llwyn-yr-eos i gwrdd â Latifa a Rula o'r Syrian Dinner Project am gyfle i weld a dysgu sut i goginio prydau Syriaidd traddodiadol.
Bwyty pop-yp a busnes arlwyo o Aberystwyth yw'r Syrian Dinner Project. Wedi'i sefydlu gan bum menyw ddaeth i Gymru yn 2015, dechreuodd y fenter fel ffordd o ymgysylltu teuluoedd o ffoaduriaid o Syria â'u cymuned leol dros fwyd.
Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o broject Ffoaduriaid Cymru, a gefnogir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau.
