Arddangosfa: Cymru... Balchder


Llun o'r Pride cyntaf yn y Barri ar 21 Medi 2019
Bob haf, cynhelir gorymdeithiau a digwyddiadau Pride ledled Cymru i ddathlu cydraddoldeb a gwelededd LHDTC+. Dechreuodd Pride yn wreiddiol fel protest – datganiad o wrthwynebiad – ac mae ymgyrchwyr wedi bod yn brwydro dros hawliau LHDTC+ yng Nghymru ers dros hanner canrif.
Mae'r arddangosfa hon yn cynnwys gwrthrychau o ddigwyddiadau Pride o bob cwr o Gymru, baneri protest a bathodynnau ymgyrch LHDTC+ o gasgliad Amgueddfa Cymru.
Oes gennych chi wrthrych, dogfen neu lun sy'n adrodd stori bywyd a diwylliant LHDTC+ yng Nghymru? Hoffem glywed gennych chi. E-bostiwch ni: sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk
Helpwch ni i sicrhau fod casgliad cenedlaethol yr Amgueddfa yn cynrychioli pobl a chymunedau LHDTC+ o bob cwr o Gymru.