Digwyddiad: Adeiladau a Dreigiau - Chwarae rôl Hanes Cymru
Trwy hud a lledrith gemau bwrdd chwarae rôl, dewch i deithio nôl mewn amser a chamu i esgidiau un o gymeriadau’r gorffennol.
- Cewch ymgolli yn hanes Cymru wrth i ni chwarae y tu fewn i adeiladau go-iawn yng nghasgliad yr amgueddfa.
- Cydweithiwch gyda’n Meistri Gemau profiadol i greu antur chwedlonol, â’i gwreiddiau mewn digwyddiadau hanesyddol.
- Caiff eich anturiaethau eu cyhoeddi yn ddwyieithog ar-lein a byddwch yn cael cydnabyddiaeth ar y dyluniadau terfynol.
Dewch â’ch deis, ac ymunwch â ni! Mae anturiaethau eraill Adeiladau a Dreigiau i’w gweld ar https://playframe.itch.io/dwellings-and-dragons
Cliciwch y ddolen hon o fod yn rhan o’n ymgynghoriad: (Dolen allanol, Saesneg yn unig) https://forms.gle/sPE96qEhSrXChG2y5
Gwybodaeth bwysig:
Archebu: Prynwch docyn ar gyfer pob person ifanc sy’n cymryd rhan. Does dim angen tocyn ar rieni/gwarcheidwaid. Archebwch eich tocynnau o leiaf 3 diwrnod cyn y digwyddiad.
Project Pobl Ifanc: Mae hwn yn ddigwyddiad ar gyfer pobl ifanc 12–18. Mae ein holl hwyluswyr yn hwyluswyr gweithdai ieuenctid gyda phrawf DBS, felly gall rhieni/gwarcheidwaid plant dan 16 fynd a chrwydro Sain Ffagan yn ystod y sesiwn hon.
Iaith: Bydd y sesiwn hon yn digwydd yn iaith gyntaf yr hwylusydd, sef Saesneg. Mae cyfieithu ar y pryd yn bosibl, a bydd siaradwr Cymraeg ar gael os oes unrhyw un eisiau cymorth Cymraeg. Nodwch eich dewis iaith wrth archebu tocyn.
Mae'r gweithgareddau yma yn cael eu threfnu gan Amgueddfa Cymru a Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru fel rhan o fenter Haf o Hwyl, sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.