Cwrs: Cyflwyniad i Waith Gof



Mae’r cyrsiau undydd yma'n gyfle i droi eich llaw at hen grefft gofannu yn yr adeilad ysbrydoledig, Gweithdy, sef gweithdy crefft ac oriel yr Amgueddfa sy’n dathlu sgiliau gwneuthurwyr ddoe a heddiw.
Fel rhan o grŵp bach o dan arweiniad Andrew Murphy, gof yr Amgueddfa, byddwch yn dysgu sut i drin dur poeth a chreu darn o waith metel unigryw wedi’i ddylunio gennych chi. Bydd pawb yn creu procer syml, yn ogystal â rhai addurniadau bychain o'n rhestr os fydd amser.
Mae’r diwrnod hwyl, hamddenol hwn yn addas i ddechreuwyr pur. Bydd dau le i'w archebu bob diwrnod.
Gwybodaeth diogelwch:
I gymryd rhan yn y cwrs, mae gofyn gwisgo’n addas (wele isod) a dilyn cyfarwyddiadau’r gof ynglyn a gweithio’n ddiogel.
Dylai pob dilledyn fod o ddeunydd naturiol, 100% cotwm os yn bosib
Dylid cael llewys hir i orchuddio’r breichiau
Dylai’r trowsus fod ddigon llac i orchuddio pen ucha’r sgidiau. (Dim ond trowsus hyd llawn y dylid ei wisgo).
Mae esgidiau diogelwch yn hanfodol - rhaid i chi eu darparu.
Darperir sbectol ddiogelwch – mae’n rhaid gwisgo hon gydol eich amser yn yr Efail. Darperir hefyd ffedog ledr.
Os ns fydd cyfarwyddiadau’r gof yn cael eu dilyn, gellir dod a’r sesiwn i ben.
Mae croeso i chi ddod â phecyn bwyd neu ymweld â'n bwytai a chaffis ar y safle. Gallwn gynnig gostyngiad o 10% yn ein bwytai a chaffis* i ddeiliaid tocyn cwrs *(heblaw am Bopty Derwen)
Mae pris y cwrs yn cynnwys parcio. Bydd y tîm tocynnau yn cysylltu â chi gyda manylion drwy'r e-bost a ddarparwyd wrth archebu.
Cod post llywio â lloeren – CF5 6XB
Rhaid prynu pob tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn ymlaen llaw.
Iaith: Cynhelir y cwrs drwy iaith cyntaf yr hwylusydd - sef Saesneg
Hygyrchedd: Mae rhai o ofodau dysgu’r Amgueddfa 5 munud ar droed o’r prif adeilad a’r maes parcio – cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu i drafod anghenion hygyrchedd.
Telerau ac amodau: Mae'r telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau ar gael i'ch ystyried fan hyn.
Drwy archebu lle ar ein cyrsiau, rydych chi'n ein cefnogi ni i adrodd stori Cymru er mwyn ysbrydoli pawb. Diolch o galon.