Digwyddiadau

Cwrs: Gwehyddu Basged Gymreig

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Dim lle ar ôl
21 Medi 2024 , 10:30 - 4yh
Pris £85 | £70 Gostyngiad
Addasrwydd 16+*

Archebu Tocynnau 

Mae hwn yn un o’r ffyrdd hynaf o ddylunio basged, drwy wehyddu ar gylch ac ychwanegu asennau wrth fynd.  Dyma fasged Gymreig draddodiadol.  Ar y cwrs hwn byddwch yn dysgu sut i wehyddu dolen, ei glymu i’r cylch gyda chortyn syml, ychwanegu asennau a’i wehyddu gyda helyg Cymreig i greu basged hyfryd - perffaith i gasglu wyau, cadw pegiau neu hel mwyar duon! 

Gwybodaeth Ychwanegol   
 

Lleoliad

Cynhelir y cwrs yma yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Defnyddiwch god post CF5 6XB ar gyfer llywio â lloeren.

Parcio

Gallwch barcio yn y maes parcio i ymwelwyr, codir tâl o £7 a gallwch dalu trwy ddefnyddio arian parod neu gerdyn

 
Iaith

Cynhelir y cwrs drwy iaith cyntaf yr hwylusydd - sef Saesneg

Oedran

16+. (Rhaid i blant o dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn 18+ sy’n cymryd rhan)

Hygyrchedd

Mae rhai o ofodau dysgu’r Amgueddfa 5 munud ar droed o’r prif adeilad a’r maes parcio – cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu i drafod anghenion hygyrchedd.

Gall darllen y telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau yma.

Cymerwch olwg ar rai o gyrsiau eraill gan Amgueddfa Cymru yma: Cyrsiau Creadigol yn Amgueddfa Cymru | Museum Wales

Digwyddiadau