Digwyddiadau

Cwrs: Cwrs Cerfio Llwyau

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
11 Mai a 6 Gorffennaf 2024, 10:30 - 4yh
Pris £65 | £55 Gostyngiad
Addasrwydd 16+*
Llun: Cwrs cerfio llwyau yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Llun: Cwrs cerfio llwyau yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Llun: Cwrs cerfio llwyau yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Archebu Tocynnau 

Ymunwch â Vic Phillips o SingleMaltTeapot i ddysgu am yr offer a’r technegau sy’n hanfodol wrth gerfio llwy. Ar ddiwedd y gweithdy bydd y sgiliau gennych i ddefnyddio cyllyll ar gyfer amrywiaeth o brojectau cerfio, a byddwch wedi creu llwy o bren leim. 

 

Yn ystod y gweithdy byddwn yn trafod: 

Defnyddio offer torri pren yn ddiogel. 

Sut i gerfio pren gyda chyllyll. 

Rhoi gorffeniad hardd i’ch llwy. 

Chwilio am ddeunyddiau newydd a’r gwahaniaeth rhwng gwahanol fathau o bren. 

Yr offer sydd eu hangen i gerfio a sut i ofalu amdanynt.

 

Gwybodaeth Bwysig

 

Mae croeso i chi ddod â phecyn bwyd neu ymweld â'n bwytai a chaffis ar y safle. Gallwn gynnig gostyngiad o 10% yn ein bwytai a chaffis* i ddeiliaid tocyn cwrs *(heblaw am Bopty Derwen) 

 
Iaith

Cynhelir y cwrs drwy iaith cyntaf yr hwylusydd - sef Saesneg 

Oedran

Mae'n rhaid i bob gyfranogwr o'r cwrs fod yn 16+ oed. Rhaid i unrhyw gyfranogwyr o dan 18 oed fod yng nghwmni rhywun 18+ oed sy'n cymryd rhan.

Hygyrchedd

Mae rhai o ofodau dysgu’r Amgueddfa 5 munud ar droed o’r prif adeilad a’r maes parcio – cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu i drafod anghenion hygyrchedd.

 

Gall darllen y telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau yma.

 

Drwy archebu lle ar ein cyrsiau, rydych chi'n ein cefnogi ni i adrodd stori Cymru er mwyn ysbrydoli pawb. Diolch o galon.

 

Cymerwch olwg ar rhai o gyrsiau eraill gan Amgueddfa Cymru yma: Cyrsiau Creadigol yn Amgueddfa Cymru | Museum Wales

 

Digwyddiadau