Digwyddiad: Canu yn y Capel


Penrhiw Chapel
Pa ffordd well o fynd i ysbryd yr ŵyl na chanu carolau yn yr Amgueddfa?
Dewch draw i Gapel Pen-rhiw, adeilad o’r 18fed ganrif, ar gyfer un o’n digwyddiadau Nadoligaidd mwyaf poblogaidd. Bydd digon o garolau traddodiadol yn ogystal ag ambell glasur fwy cyfoes.
11am-12pm Saesneg
1-2pm Cymraeg
3-4pm Saesneg
Mae'ch tocyn Canu yn y Capel yn cynnwys gostyngiad o 10% ar ddiodydd poeth yn Y Gegin (Yn cynnwys: gwin poeth, tê, coffi, coffi gyda gwirod a siocled poeth). Dangoswch eich tocyn wrth y til er mwyn hawlio'ch gostyngiad. Mae'r cynnig yma'n ddilys ar ddiwrnod y digwyddiad yn unig.
Achebwch eich tocyn yma -
Canu yn y Capel | Amgueddfa Cymru
*Rhaid i bawb sy’n dod gael tocyn. Dim angen tocyn ar gyfer plant dan 2 oed a phlant bach yn eich breichiau, ond rhaid gadael pob pram tu allan i’r adeiladau hanesyddol.
Hygyrchedd: oherwydd natur hanesyddol y capel, ychydig o le sydd ar gyfer cadeiriau olwyn. Dewiswch le cadair olwyn wrth brynu’ch tocyn.
Ni ellir ad-dalu tocynnau ac ni ellir eu cyfnewid am ddyddiad neu ddigwyddiad arall. Gwnewch yn siwr eich bod yn gwbl hapus â’ch dewisiadau cyn archebu.
Cŵn tywys yn unig ar gyfer y digwyddiad hwn.