Digwyddiadau

Digwyddiad: Llwybr Hanner Tymor Calan Gaeaf yn Sain Ffagan

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen
29 Hydref–6 Tachwedd 2022, 10am - 3pm
Pris £3.50
Addasrwydd Teuluoedd
Archebu lle Galw heibio
Helfa Pwmpen

Bŵ! Mae’n Galan Gaeaf! A dyma’r lle i ddiddanu eich coblynnod bach dros hanner tymor, gyda’n Llwybr Calan Gaeaf.

Dewch i nôl taflen, a dilyn y cliwiau i ddod o hyd i’r pwmpenni sy’n cuddio o gwmpas yr Amgueddfa. 

Gwnewch luniau wynebau yn y pwmpenni, chwiliwch am y llythrennau wrth ymyl y pwmpenni i ddatrys y pos, cyn mynd nôl i’r siop i gasglu eich gwobr.

 

Beth fydda i’n gael?

  • Taflen A4 liwgar.

  • Os cewch chi drafferth, mae cod QR defnyddiol i’ch helpu!

  • Danteithion siocled (ar ôl cwblhau’r llwybr). Opsiwn heb gynnyrch llaeth ar gael.

Lle alla i gael y daflen?  

  • Bydd y daflen ar gael yn yr Atriwm wrth i chi gyrraedd.

  • Dim angen archebu ymlaen llaw.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Mae’r weithgaredd hon yn ddwyieithog.

  • Addas i blant 4+ oed; efallai bydd plant iau angen help.

  • Cost: yn cynnwys un daflen ac un wobr siocled. Mae croeso i chi gwblhau’r gweithgaredd fel teulu neu brynu un yr un.

  • Lle bo’n bosibl, rydym wedi defnyddio deunyddiau eco-gyfeillgar a byddwn yn eu defnyddio eto.
  • Gostyngiad o 10% i aelodau  Amgueddfa Cymru.

Nifer cyfyngedig ar gael - cyntaf i’r felin!

 

Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o Ŵyl Amgueddfeydd. 

Digwyddiadau