Digwyddiadau

Digwyddiad: Hanes Du Cymru - Pobl Ifanc, Nawr yw'r Awr!

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen
1 Hydref 2022, 11am-5pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Ymunwch â ni yn nathliadau Hanes Du Cymru yn Sain Ffagan. Y thema eleni yw Pobl Ifanc, Nawr yw'r Awr! 

Byddwn ni'n dathlu hanes, diwylliant a chyfraniad pobl o dras Du-Affricanaidd ac Affricanaidd Caribïaidd, drwy gyfrwng cerddoriaeth, perfformio, a chelf. 

Bydd amrywiaeth o stondinau hefyd yn gwerthu nwyddau Hanes Du Cymru a bwydydd Affricanaidd a Charibïaidd i'w blasu. 

Mae croeso i bawb.

Gan gynnwys perfformiadau gan: 

  • Lucas Rowe 

  • Blank Face 

  • Wahda

  • Xenith 

  • RoseGold Choir 
  • Miss Faithee 

Gyda gwesteion a siaradwyr gwadd.

Digwyddiadau