Digwyddiad: Siôn Corn a’i Ffrindiau
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Bydd Siôn Corn a’i Gorachod yn ymweld â Sain Ffagan unwaith eto eleni, ac mae gwahoddiad i chi ymuno â’n digwyddiad arbennig yn awyrgylch hudolus Llys Llywelyn, ail-gread un o lysoedd brenhinol Tywysogion Gwynedd o’r 13eg ganrif. Felly cofiwch archebu lle er mwyn i’r plantos gael ymuno yn yr hwyl.
Caiff bob plentyn:
- Gwrdd â Siôn Corn – bydd yn cwrdd â phob plentyn yn unigol i roi anrheg iddynt. Bydd cyfle i dynnu llun gyda Siôn Corn.
- Gymryd rhan mewn sesiwn amser stori rhyngweithiol gyda Siôn Corn a’r Corachod
- Gymryd rhan mewn gweithdy Crefft gyda’r Corachod - bydd pob plentyn yn creu addurn arbennig i fynd adref
Slotiau Amser a Dewis Iaith:
10 & 11 Rhagfyr
10am Saesneg
11.15am Cymraeg
12.30pm Saesneg
2.30pm Saesneg
3.45pm Saesneg
17 Rhagfyr
10am Cymraeg
11.15am Cymraeg
12.30pm Cymraeg
2.30pm Cymraeg
3.45pm Saesneg
Gwybodaeth Bwysig:
- Rhaid archebu pob tocyn ymlaen llaw. Mae llefydd yn gyfyngedig a disgwyliwn i docynnau werthu allan yn gyflym.
- Mae’r digwyddiad a’i weithgareddau wedi eu cynllunio ar gyfer plant 3+ oed. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn, bob amser.
- Mae angen tocyn ar gyfer pob plentyn 3+ oed sy’n cymryd rhan. Oherwydd prinder lle yn yr adeiladau hanesyddol, dim ond dau berson na fydd yn cymryd rhan gaiff fod efo pob plentyn 3+ oed sy’n cymryd rhan. Mae pobl nad ydynt yn cymryd rhan yn cynnwys plant dan 3 oed, babanod mewn breichiau, gofalwyr, oedolion a phobl hŷn.
- Nid oes angen tocyn ar bobl nad ydynt yn cymryd rhan ond ni fyddant yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau crefft ac ni fyddant yn derbyn anrheg gan Siôn Corn.
- Rhaid gadael pramiau y tu allan i’r adeiladau.
- Dylai deiliaid tocynnau gyrraedd yn brydlon a dim mwy na 15 munud cyn amser cychwyn eu sesiwn. Caniatewch hyd at 15 munud i gerdded o faes parcio/prif adeilad yr Amgueddfa i Lys Llywelyn.
- Dylid gwisgo dillad addas i’r tywydd. Bydd gofyn i chi aros tu allan tan amser cychwyn eich sesiwn.
- Nid yw pris eich tocyn yn cynnwys parcio. Codir tâl o £6 y diwrnod am barcio.
- Ni ellir ad-dalu tocynnau ac ni ellir eu cyfnewid am ddyddiad neu ddigwyddiad arall. Gwnewch yn siwr eich bod yn gwbl hapus â’ch dewisiadau cyn archebu.
- Cŵn tywys yn unig ar gyfer y digwyddiad hwn.
- Byddwch yn derbyn cadarnhad archeb ar ôl prynu eich tocynnau, a byddwch yn derbyn eich e-docyn ddydd Iau 8 Rhagfyr 2022.